SL(6)162 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2022
Cefndir a Diben
O ganlyniad i ddirymu Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020[1] a’u disodli gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2022[2] (“y Rheoliadau Teithio Rhynglwadol”), mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i:
(i) Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020[3] (“y Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd”); a
(ii) Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021[4] (“y Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr”).
Mae’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd wedi eu diwygio hefyd i ddarparu mai dim ond gwybodaeth benodedig y mae rhaid i weithredwyr ei darparu i deithwyr cyn i daith ymadael ac yn ystod taith gan deithwyr rhyngwladol.
Yn ogystal, mae’r Rheoliadau Atebolrwydd
Gweithredwyr wedi eu diwygio i roi yn lle’r gyfres bresennol
o rwymedigaethau ar weithredwyr rwymedigaeth i gynnal prosesau a
systemau digonol i sicrhau bod teithwyr yn meddu ar wybodaeth neu
dystiolaeth benodol.
Gweithdrefn
Negyddol.
Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu’r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y cawsant eu gosod gerbron y Senedd.
Materion technegol: craffu
Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn:
1. Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol
Mae rheoliad
11(3)(c) yn mewnosod diffiniad o “deithiwr cymwys” yn
rheoliad 4 o'r Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr.
Mae'r fersiwn Saesneg fel a ganlyn:
“(c) in the appropriate place insert “eligible
traveller has the meaning given in
regulation 3 of the International Travel
Regulations”;
Mae’r fersiwn Gymraeg fel a ganlyn:
“(c) yn y lle priodol mewnosoder “mae i
“teithiwr cymwys” (“eligible traveller”) yr
ystyr
a roddir yn rheoliad 3
o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”;
Nid yw fersiwn Saesneg y Rheoliadau yn cynnwys cyfieithiad Cymraeg
o’r term “eligible traveller”, tra bod y fersiwn
Gymraeg yn cynnwys cyfieithiad Saesneg o’r un
term.
Nodir y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn:
1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd
Nodwn y torrir y rheol 21 diwrnod (hynny yw, y rheol y dylai 21 diwrnod fod rhwng y dyddiad y gosodir offeryn “gwneud negyddol” gerbron y Senedd a'r dyddiad y daw'r offeryn i rym) a'r esboniad am dorri’r rheol a ddarparwyd gan Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, mewn llythyr at y Llywydd, dyddiedig 17 Chwefror 2022.
Yn benodol, nodwn fod y llythyr yn nodi:
“Trwy beidio â chydymffurfio â’r confensiwn 21 diwrnod bydd modd i’r Rheoliadau hyn ddod i rym cyn gynted ag y bo modd a pharhau â'r dull pedair gwlad o ymdrin â theithio rhyngwladol. O ystyried y newid yn y dystiolaeth ynglŷn â’r risg mewn perthynas â'r clefyd hwn, ystyrir bod hyn yn angenrheidiol ac yn gyfiawn yn yr achos hwn.”
Rydym yn nodi cyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol. Yn benodol, nodwn y paragraff a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:
“Mae’r diwygiadau yn y Rheoliadau hyn yn symleiddio’r gofynion presennol a osodirar weithredwyr. I’r graddau yr ymwneir ag unrhyw hawliau, mae unrhyw ymyriadwedi ei gyfiawnhau ac yn gymesur, er mwyn atal lledaeniad COVID-19 a diogeluiechyd y cyhoedd.”
Nodwn na chynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol ar y Rheoliadau hyn. Yn benodol, nodwn y paragraffau a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:
“Oherwydd y bygythiad newidiol sy’n deillio o’r coronafeirws a’r angen i’r ymateb iechyd y cyhoedd gyd-fynd â’r sefyllfa wrth iddi newid, ni chynhaliwyd unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r pwynt adrodd technegol.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
22 Chwefror 2022